Tai Fforddiadwy

Amcan Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) yw darparu eiddo fforddiadwy, o safon, i cyfarch anghenion ymgeiswyr am eiddo fforddiadwy sydd wedi gofrestru ar y Gofrestr Eiddo Fforddiadwy perthnasol. Yng Ngogledd Cymru, y gofrestr hon yw Tai Teg.

A ydw i’n gymwys i wneud cais gyda Tai Teg?

Dyma’r meini prawf sydd rhaid i chi eu cwrdd er mwyn cael eich ystyried i fod ar gofrestr:-

  • Oedran: Rhaid i chi fod dros 18 mlwydd oed
  • Ariannol: I gael incwm cartref gros blynyddol rhwng £16,000 a £45,000
  • Incwm: Rydym yn ystyried credyd treth yn unig. Nid ydym yn ystyried budd-daliadau fel incwm
  • Cyflogaeth: Rhaid i ymgeiswyr fod mewn cyflogaeth (rhan amser eu llawn amser ond rhaid bod ag incwm gros y flwyddyn o £16,000 - £45,000) neu os yn prynu, efo cynilion ac yn methu prynu ar y farchnad agored heb gymorth. (Bydd rhaid fod gennych incwm i gynnal yr eiddo)
  • Fforddiadwy: Ni allwch fforddio i rentu ar y farchnad agored a/neu brynu eiddo sy’n addas i’ch anghenion
  • Llety: i fod naill ai’n brynwr tro cyntaf neu os yw’r cartref presennol yn anaddas a ddim yn cwrdd ag anghenion eich teulu e.e.
    • Oherwydd maint teulu
    • Fforddiadwyedd
    • Anghenion penodol neu
    • Mewn angen oherwydd tor perthynas
  • Cysylltiad Lleol: Bydd rhaid i chi fod a cysylltiad lleol â’r ardal rydych yn dewis byd ynddi e.e. yn byw, gweithio neu gyda theulu, cysylltiad teuluol agos
  • Eithriad: Personél Gwasanaeth. Rydym yn ystyried ceisiadau hyd yn oed os yw’r ‘Service Personnel’ ar incwm ‘zero’ – ond rhaid cael cysylltiad lleol fel a nodi’r uchod.

Mae cofrestru am DDIM, ond codi’r ffi asesu o £75.00 ar rhai cynlluniau. Byddwch yn cael eich cynghori o hyn yn ystod y broses.

Cofrestru

Os hoffwch gofrestru, bydd angen i chi creu cyfrif gyda Tai Teg. I greu cyfrif, cliciwch yma.

Mae yna 14 partner yn rhan o’r gofrestr sef – yn cynnwys: -

  • Cartrefi Cymunedol Gwynedd
  • Cartrefi Conwy
  • Conwy Council
  • Denbighshire County Council
  • Flintshire County Council
  • Gwynedd Council
  • Powys County Council
  • Wrexham County Council
  • Isle of Anglesey County Council
  • Clwyd Alyn / Pennaf
  • Grŵp Cynefin
  • The Snowdonia National Park
  • North Wales Housing
  • Wales & West

I fod yn gymwys am uned fforddiadwy, bydd rhaid i incwm gros y cartref fod rhwng £16,000 - £45,000

**Unwaith y byddwch wedi cofrestru a phan fyddwch yn datgan diddordeb am eiddo, bydd y rhestr fer yn cael ei creu yn ôl trefn dyddiad cofrestr Tai Teg**


Rhent Canolraddol

  • Mae rhent canolraddol yn opsiwn i bobl sydd ddim mewn sefyllfa i brynu cartref am amryw o resymau megis dim digon o flaendal neu hanes credyd gwael
  • Mae’r cynllun wedi ei anelu at bobl mewn cyflogaeth, ac sydd ddim yn ddibynnol ar fudd-daliadau
  • Gosodir rhent ar Lwfans Tai lleol neu 80% o’r rhenti farchnad agored
  • Rhaid i ymgeiswyr gwrdd a’r meini prawf a chofrestru a Tai Teg
  • Fel rheol bydd angen mis o rent a mis o flaendal

Rhent Canolraddol a Cartrefi Cymunedol Gwynedd:

Bydd Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn cychwyn datblygu eu cynllun Eiddo Canol Raddol cyntaf yn Llandudno Junction a Sychnant Pass.

Llys Marl, Marl Lane, Llandudno Junction:

  • 2 Uned - 3 llofft
  • 1 Uned - 2 lofft

Bydd y gwaith yn dechrau ar y safle Tachwedd 2018.

Fydd yr unedau cyntaf yn cael eu cwblhau yn Awst 2019 gyda’r unedau sy’n weddill yn cael eu hadeiladu dros y 12 mis canlynol.

Sychnant Pass:

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysyried yn nhrefn dyddiad cofrestru, felly ewch ymlaen I gofrestru eich diddordeb.


Cymorth Prynu

  • Mae Cymorth Prynu yn gynllun a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ac ar gael i’ch cynorthwyo chi i brynu eiddo ar y farchnad agored
  • Bydd yn ofynnol i chi allu ariannu hyd at 70% o bris yr eiddo, gyda morgais, neu gyfuniad o forgais a chynilion
  • Isafswm blaendal o 5% (Yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais)
  • Bydd y landlord partner yn benthyca’r 30% sy’n weddill i chi. Mewn rhai amgylchiadau, gellir cynyddu’r benthyciad i 50%
  • Bydd y benthyciad yn cael ei sicrhau yn erbyn yr eiddo, ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad
  • Pan fydd amser yn caniatáu fe allwch dalu’r benthyciad yn ôl
  • Am fwy o wybodaeth plîs cliciwch yma

Rhan Ecwiti

  • Cynigir rhan ecwiti fel arfer ar eiddo a brynir yn uniongyrchol gan ddatblygwr, gymdeithas dai/awdurdod lleol neu eiddo ail-law a brynwyd yn y gorffennol
  • Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd gydymffurfio a meini prawf o’r Amod 106 (Dogfen gyfreithiol yw’r Amod106 gan y Cyngor) e.e. cysylltiad lleol
  • Mae’r benthyciad ecwiti yn gallu amrywio a byddai’n ofynnol i chi gallu cyllido o % sy’n weddill drwy forgais neu gyfuniad o forgais a chynilion
  • Bydd y benthyciad ecwiti yn cael ei sicrhau yn erbyn eich eiddo, ni fydd rhent na llog yn daladwy ar y benthyciad
  • Mewn rhai amgylchiadau ni fyddwn yn gallu ad-dalu y benthyciad
  • Bydd angen isafswm blaendal o 5% (yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais)

Eiddo Adran 106 ar Ddisgownt

  • Cynllun ble mae’r datblygwr yn adeilad tai ac yn eu gwerthu ar bris disgownt is na’r farchnad agored
  • Bydd y % disgownt yn cael ei gytuno yn ystod y broses Cynllunio
  • Bydd yn ofynnol I’r ymgeisydd gydymffurfio a meini prawf a’r adran 106. (Dogfen cyfreithiol gan y Cyngor) e.e. cysylltiad lleol
  • Bydd angen isafswm blaendal o 20% ( Yn amodol ar ofynion y benthyciwr morgais)

Rhan Berchnogaeth

  • Gallwch brynu cyfran o’r cartref a thalu rhent ar y gyfran arall
  • Gallwch brynu cyfran gychwynnol a fydd yn cyfateb i rhwng 25% a 75% o werth yr eiddo yr ydych wedi’i ddewis
  • Rhaid ichi gael morgais ad-dalu ar gyfer y gyfran o’r cartref yr ydych yn ei phrynu
  • Gallwch gynyddu eich cyfran yn yr eiddo ar unrhyw adeg
  • Chi fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r eiddo hyd yn oed os ydych yn talu % o rent
  • Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Rhentu i’w Brynu

  • Cewch gyfle i brynu’r cartref yr ydych yn ei rentu a gallwch gynilo cyfraniad i gyfrannu at flaendal morgais tra byddwch yn rhentu’r cartref
  • Byddwch yn rhentu’r cartref yn y lle cyntaf, a gall gael 25% o’r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o’r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu’r eiddo – au defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu’r eiddo
  • Bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb
  • Am fwy o wybodaeth cliciwch yma

Hunain Adeiladu A106

  • Plot o dir ar gael gan y Cyngor neu berchennog tir i adeiladu eiddo fforddiadwy
  • Rhaid i’r hunan adeiladwr gwrdd a’r meini prawf, a bydd yn gyfrifol am holl gostau dylunio ac adeiladu’r cartref
  • Lle bo’r angen, mae’n bosib y bydd y Cyngor yn gallu rhoi ‘benthyciad pontio’ hyd nes y bydd y cartref wedi ei adeiladu i safon dderbyniol fel bod modd cael morgais arno. (Cysylltwch â’r Cyngor perthnasol am fwy o wybodaeth – cofiwch nad yw pob Cyngor yn darparu’r gwasanaeth benthyciad pontio).

**I gael eich cysidro ar gyfer unrhyw un o’r cynlluniau uchod fydd rhaid profi eich bod mewn angen am dŷ fforddiadwy**

Os ydych angen unrhyw wybodaeth pellach ynghylch a’r uchod, cysylltwch a Tai Teg ar info@taiteg.org.uk neu ffoniwch 0845 6015605

Neu os hoffwch argraffu’r wybodaeth uchod, cliciwch yma.


Yn ôl i'r top