Ydych chi’n adnabod tenant neu breswylydd sydd yn gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau neu sydd yn mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill?
Os felly, gallwch yn awr eu henwebu trwy ein cynllun Sêr cymunedol.
Bob tri mis byddwn yn dewis enillwyr mewn pedwar categori gwahanol, o enwebiadau fydd yn dod i mewn gan denantiaid, staff CCG, cynghorwyr ac aelodau eraill o’r cyhoedd. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol.
Y pedwar categori yw:
Mae’r categori yma ar gyfer unigolion sydd yn mynd y filltir ychwanegol i helpu eraill yn ein cymunedau.
Gall esiamplau gynnwys helpu’r henoed, helpu pobl fregus, trefnu digwyddiadau cymunedol, dangos esiampl dda i eraill yn y gymuned ayb.
Mae’r categori yma ar gyfer unigolion sy’n meddwl am syniadau fyddai o fudd i’r gymuned.
Gall esiamplau gynnwys syniadau i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, syniad i wella’r amgylchedd, syniad i wella ymddangosiad eich bro, syniad ar gyfer gweithgareddau / digwyddiadau i’r ifanc/henoed ayb.
Mae’r categori yma ar gyfer unigolion o dan 25 oed sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau.Gall esiamplau gynnwys helpu’r henoed, helpu pobl fregus, gwirfoddoli yn y gymuned, trefnu gweithgareddau/digwyddiadau cymunedol, dangos esiampl dda i eraill ayb.
Mae’r categori yma ar gyfer unigolion sy’n gwneud gwaith i wella’r amgylchedd.
Gall esiamplau gynnwys hybu ailgylchu, tacluso yn ein cymunedau, cadw gerddi/mannau cymunedol/strydoedd a stadau yn daclus, hybu a hyrwyddo ffyrdd o arbed ynni ayb.
Os hoffech enwebu rhywun am wobr neu os hoffech gael mwy o wybodaeth am y cynllun, yna cysylltwch gyda’n Tîm Cyswllt Cymunedol ar 0300 123 8084 neu cymunedol@ccgwynedd.org.uk