Prydleswyr

Mae prydles yn gytundeb gyfreithiol gymhleth sy’n nodi hawliau a goblygiadau’r prydleswr a’r rhydd- ddaliwr (CCG).

Pan fydd person yn prynu prydles eiddo, maent yna yn brydleswr ar yr eiddo yna. Cant eu galw hefyd yn ddalwyr prydles neu’n denant. Bydd y landlord (CCG) yn parhau i berchen rhydd-ddaliad yr eiddo. Caiff y landlord hefyd ei alw yn brydlesydd.

Mae’ch prydles yn fath o denantiaeth sy’n eich caniatáu i fyw yn eich cartref am nifer penodol o flynyddoedd. Bydd hyn yn cael ei ddiffinio yn y brydles fel ‘y cyfnod’. Bydd y cyfnod yn cychwyn pan fydd yr eiddo wedi ei werthu yn wreiddiol. Fel arfer, mae’n gyfnod o 125 mlynedd. Edrychwch ar eich prydles i weld beth yw hyd eich prydles chi. Os ydych wedi prynu’r eiddo ar y farchnad agored, bydd y cyfnod yn weithredol ers gwerthu’r eiddo yn wreiddiol.

Mae yna nifer o brydlesau gwahanol ar gael, felly mae’n bwysig eich bod yn deall beth sydd wedi ei amlinellu yn eich prydles chi.

Am gopi o'r Llawlyfr Prydleswyr, cliciwch yma.

Mae copi o’ch prydles ar gael yma gan Swyddfa’r Gofrestrfa Tir am ffi fechan.

Os nad ydych yn dallt eich prydles, argymhellwn eich bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.

Mae yna wybodaeth sylweddol a chyngor ar gael hefyd gan y Gwasanaeth Cynghori Prydles (Leasehold Advisory Service).

Pethau i’w ystyried cyn prynu eiddo ar brydles

Os ydych yn ystyried prynu eiddo ar brydles a ddim yn siwr os ydi hyn y dewis iawn i chi, edrychwch ar ‘Pethau iw wybod cyn prynu fflat’ sydd wedi ei baratoi gan y Gwasanaeth Cynghori Prydles (The Leasehold Advisory Service). Falle byddwch hefyd eisiau cyngor cyfreithiol annibynnol ar y fater i sicrhau eich bod yn deall yn iawn y rhwymedigaeth a’r cyfrifoldebau sy’n ymwneud a bia prydles.

Mae groeso i chi gysylltu a ni ar 0300 123 8084 am sgwrs anffurfiol.

Yn dilyn ein Aarolwg Boddhad Prydleswyr cyntaf anfonwyd atoch y llynedd, rydym wedi dadansoddi’r darganfyddiadau ac wedi ystyried sut y gallwn wella’r gwasanaeth yr ydych yn ei gael gennym. Rydym wedi creu taflen Dywedoch Chi, Ein Hymateb Ni. Rydym wedi amlygu’r prif feysydd a oedd yn peri pryder a gafodd eu nodi yn y canlyniadau, yn ogystal â’r camau yr ydym ni fel landlord wedi’u cymryd i fynd i’r afael gyda’r materion hyn. Byddwn yn parhau i edrych ar ddulliau i wella’r gwasanaeth yr ydym yn ei roi i chi. Yn y cyfamser, pe bai gennych unrhyw gwestiynau neu bryder am gynnwys y daflen ‘Dywedoch Chi, Ein Hymateb Ni’, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni ar 0300 123 8084.

Beth yw Tâl Gwasanaeth?

Tâl am wasanaeth yw eich rhan chi o’r costau am y gwasanaethau y mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) yn eu darparu yn eich bloc a/neu stad. Mae posib adennill y taliadau o dan delerau eich prydles a rhaid iddo gael ei dalu gennych chi, y prydleswr.

Bydd anfonebau tâl am wasanaeth yn cael eu cyfrifo ar sail amcangyfrif ar gyfer y flwyddyn gydag addasiad yn cael ei wneud ar gyfer y gwahaniaeth rhwng cost oedd wedi ei amcangyfrif ar gyfer y flwyddyn flaenorol a’r gwir gost.

Mae’r gwasanaethau y byddwch yn talu amdanynt yn ddibynnol ar leoliad eich eiddo a’r gwasanaethau sydd ar gael yn yr adeilad. Efallai na fyddwch yn cael yr holl wasanaethau sydd wedi eu rhestru isod.

Bydd y gwasanaethau y gallwn godi amdanynt a’r gyfran y gallwn ei godi wedi ei amlinellu yn eich prydles (Cyfeiriwch at eich prydles am fanylion costau gwasanaeth adferadwy sy’n effeithio arnoch chi).

Am fwy o wybodaeth am dâl gwasanaeth, pa daliadau a all ymddangos ar eich anfoneb a sut i dalu eich anfoneb tâl gwasanaeth edrychwch ar ein Taflen Wybodaeth Tâl Gwasanaeth Prydleswyr.

Os byddwch yn cael trafferth talu eich anfoneb tâl am wasanaeth, neu os ydych eisiau sgwrs anffurfiol am gynnwys eich anfoneb, cysylltwch gyda’n Adran Gyllid cyn gynted ag sy’n bosib ar 0300 123 8084.

Sut i gysylltu

Ffôn: 0300 123 8084

Cyfeiriad: CCG, PO BOX 206, Bangor, Gwynedd, LL57 9DS

Ebost: ymholiadau@ccgwynedd.org.uk

Pencadlys: Uned 6 a 7, Llys Castan, Parc Menai, Bangor, LL57 4FH

twitter Dilynwch ni ar twitter: @CartrefiGwynedd

facebook Ewch draw i'n tudalen facebook: facebook.com/CCGwynedd

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg.

Eich barn

Fel prydleswr, mae eich adborth am y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i chi yn werthfawr ac yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cwrdd a'ch anghenion.

Rydym am wybod os nad yw’r gwasanaeth yn cyrraedd y safon ond mae hefyd wastad yn dda clywed os ydym yn gwneud pethau’n iawn!

Ac os oes gennych unrhyw syniadau newydd neu argymhellion cofiwch roi gwybod i ni.

Angen gwneud cwyn?

I weld ein canllawiau ar sut i wneud cwyn cliciwch y linc isod:

Canllawiau Cwyno

I gwblhau ffurflen gwyno cliciwch y linc isod:

Ffurflen Gwyno

Sut i ddweud wrthym beth rydych yn feddwl o’n gwasanaeth?

Ffoniwch ni: 0300 1238 084 Gofynnwch am ffurflen adborth

Ysgrifennwch atom: CCG, PO BOX 206, Bangor, Gwynedd, LL57 9DS

Dolenni

Nid yw CCG yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefan allanol.

Fel prydleswr, bydd y wybodaeth ofynnol i gael caniatâd i wneud gwelliannau neu addasiadau i’ch cartref yn cael ei amlinellu yn eich prydles. Ni fydd pob prydles yn caniatáu gwelliannau ac addasiadau, a pan fydd caniatâd yn bodoli bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan CCG. Efallai y bydd yna gymal yn eich prydles yn nodi rhywbeth fel: ‘Peidio â gwneud unrhyw addasiadau a gwelliannau...heb...caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw’.

Gwelliannau ac addasiadau bychain

Yn gyffredinol, ni fydd angen i brydleswyr ofyn am ganiatâd i wneud gwelliannau bychain fel addurno, rhoi silffoedd neu luniau ar waliau ayb.

Gwelliannau ac addasiadau mawr

Pan fo’r brydles yn caniatáu i rywun wneud gwelliannau ac addasiadau, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi yn y lle cyntaf yn cael caniatâd ysgrifenedig gan CCG cyn gwneud unrhyw waith gwella neu addasiadau mawr i’ch cartref, fel tynnu neu adeiladu waliau, tynnu ffenestri ayb.

Bydd angen i chi gwblhau ‘Ffurflen Gais gan Denant i wneud Gwelliannau i Eiddo’. Unwaith bydd y ffurflen wedi ei chyflwyno, bydd eich cais a phrydles yn cael eu hadolygu a byddwch yn cael gwybod yn ysgrifenedig os yw CCG yn caniatáu neu yn gwrthod rhoi caniatâd i chi.

Os nad ydych yn siwr os ydych angen caniatâd ysgrifenedig cyn gwneud gwaith penodol ar eich eiddo, neu os ydych angen copi o ‘Ffurflen Gais gan Denant i wneud Gwelliannau i Eiddo’ cysylltwch â ni ar 0300 123 8084.

Gwaith sylweddol yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio lle bydd gwaith i floc yn costio mwy na’r throthwy ariannol sefydlog i brydleswyr (£250 ar hyn o bryd). Mewn rhai achosion, gall y costau fod yn uwch o lawer.

Gall hyn fod yn gwaith sydd angen ei wneud er mwyn cynnal a chadw’r eiddo. Lle mae’r gwaith sylweddol yn cyrraedd y trothwy ariannol sefydlog, rhaid I Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) ymgynghori â chi, y prydleswyr gan fod angen I chi gyfrannu at y costau hyn yn unol â thelerau eich prydles.

Gall gwaith sylweddol gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Gwaith toi
  • Man cyffredin
  • Gwaith brics allanol neu waith blociau
  • Soffits
  • Ffasgau
  • Gwaith gwter

I weld rhai o’n ymatebion i cwestiynau cyffredin sy’n ymwneud a Gwaith Sylweddol, cliciwch yma.

Am wybodaeth ar pryd byddwch yn cael eich anfonebu am y gwaith a’r gwahanol opsiynau talu sydd ar gael i chi, cliciwch yma.

Mae gan y ‘Leasehold Advisory Service’ llawer o wybodaeth sy’n ymwneud a Gwaith Sylweddol a’r broses Ymgynghori Adran 20. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth. Mae bosib hefyd cael copi o’r ddogfen ‘Gwaith Mawr: Canllaw ar gyfer les ddeiliaid landlordiaid cymdeithasol’ yma.

Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) yn derbyn bod llawer o’r terminoleg sy’n ymwneud a fod yn brydleswr/ o fewn eich prydles yn gymhleth. O ganlyniad, mae rhan yma o’r wefan yn rhoi disgrifiad byr or termau sy’n cael eu defnyddio mwyaf aml. Mae’r wybodaeth ganlynol wedi dod o'r llyfryn ‘GWAITH MAWR: Canllaw ar gyfer lesddeiliaid landlordiaid cymdeithasol (2016)’.

Addurno cylchol Rhaglen a gynhelir, er enghraifft, bob pum neu saith mlynedd mewn ardaloedd gymunol i ardaloedd mewnol ac allanol o’r adeilad fel ei gilydd. Adenillir y costau ar gyfer hyn trwy daliad gwasanaeth.
Adran 20 Adran 20 Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002). Mae hon yn cyflwyno’r broses ffurfiol ar gyfer ymgynghori â lesddeiliaid a thenantiaid ynghylch eitemau penodol y codir tâl amdanynt trwy daliadau gwasanaeth.
Adran 20B Adran 20B Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985. Rhaid i landlordiaid gyhoeddi galwadau am daliadau gwasanaeth o fewn 18 mis o dynnu’r gost.
Ardaloedd/rhannau cymunol Rhannau’r adeilad/ystad/tiroedd a rennir gyda phreswylwyr eraill ac nas rhoddir yn benodol i’r lesddeiliad yn y les ond lle mae hawliau mynediad iddynt.
Aseiniad Trosglwyddiad ffurfiol o eiddo. Er enghraifft, pan drosglwyddir perchnogaeth les o’r naill person i’r llall.
Bloc Bloc yw’r adeilad a ddisgrifir yn y les rydych yn gyfrifol am dalu rhan o’r costau rhedeg, cynnal a rheoli amdano.
Cronfa ad-dalu neu wrth gefn Cynilion hirdymor mae lesddeiliaid yn cyfrannu atynt bob mis neu flwyddyn trwy daliadau gwasanaeth. Mae hyn yn cynyddu bob blwyddyn ac fe’i bwriedir i dalu am unrhyw waith mawr sydd ei angen, er enghraifft amnewid to. Fel arfer ni chewch unrhyw arian yn ôl rydych wedi’i dalu i gronfeydd ad-dalu/wrth gefn. Mae rheolau cyfrifyddu arbennig ynghylch sut mae landlordiaid yn gweinyddu cronfeydd ad-dalu/wrth gefn. Nid yw pob les yn caniatáu am hyn.
Cyd-berchnogaeth Rhywun sy’n berchen ar gyfran mewn cartref ac yn talu rhent ar y rhan weddilliol a gedwir gan y landlord.
Cymdeithas tenantiaid cydnabyddedig (RTA) Cymdeithas o ‘denantiaid cymwys’ a gydnabyddwyd yn ffurfiol gan y landlord neu gan dystysgrif gydnabyddiaeth a roddir gan y Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau o dan Adran 29 Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985. Mae ganddi hawliau amrywiol syn debyg i’r rhai hynny a roddir i lesddeiliaid unigol gan gynnwys yr hawl i gael ei ymgynghori o dan adran 20.
Cymrodeddu Setlo anghydfod trwy ddefnyddio dyfarnwr annibynnol, sy’n osgoi mynd i’r llys.
Cytundeb hirdymor cymwys Cytundeb a wneir gan y landlord gyda chontractwr am gyfnod o fwy na 12 mis lle mae’r costau sy’n daladwy gan lesddeiliad yn fwy na swm trothwy (£100 ar hyn o bryd) mewn unrhyw un flwyddyn.
Deddf Landlordiaid a Thenantiaid 1985 Y ddeddf Seneddol wreiddiol (yr ychwanegwyd ati erbyn hyn gan ddeddfau diweddarach) sy’n cyflwyno beth yw taliad gwasanaeth a sut y dylid ei gyrraedd. Er enghraifft, rhaid iddo gael ei dynnu’n rhesymol.
De minimis Y swm a ganiateir gan reoliadau UE i’w ddarparu mewn Cymorth Gwladol dros gyfnod o 3 blynedd, £200,000 ar hyn o bryd.
Gwaith cymwys Gwaith mawr a fydd yn costio mwy na swm trothwy i unrhyw lesddeiliad unigol (£250 ar hyn o bryd).
Gwaith mawr Lle bydd gwaith i floc yn costio mwy na throthwy ariannol sefydlog i lesddeiliad (£250 ar hyn o bryd), rhaid i’r landlord ymgynghori â lesddeiliaid. Gelwir hyn yn waith mawr. Mewn rhai achosion, gall, y costau fod yn uwch o lawer. Er enghraifft, os oes angen cael to newydd. Dylai’ch landlord allu rhoi gwybod i chi a fydd unrhyw waith arfaethedig ar eich bloc yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae rhai lesau’n caniatáu cronfa ad-dalu i dalu’r costau hyn. Lle nad oes cronfa ad-dalu, gall landlord gynnig ystod o opsiynau talu.
Gweithred Dogfen gyfreithiol yn ymrwymo’r person sy’n ei llofnodi i rywbeth.
Gwella Gwneud mwy o waith i eiddo na’r trwsiadau sydd eu hangen i gadw’r eiddo yn yr un cyflwr cyfanheddol yr oedd ynddo pan roddwyd y les. Weithiau gall hyn olygu ychwanegu rhywbeth newydd i’r adeilad.
Hawl i Brynu a gadwyd Mae tenant awdurdod lleol yn cadw’r hawl hon os yw’r awdurdod lleol yn trosglwyddo eu safleoedd i gymdeithas dai, fel rhan o drosglwyddiad stoc.
Hysbysiad Adran 125 Yr hysbysiad o’r Hawl i Brynu yn cynnwys manylion ynghylch costau gwaith mawr arfaethedig yn ystod pum mlynedd cyntaf y les a’r mwyaf y gall landlord ei codi am waith yn ystod yr amser hwn.
Landlord Y person sy’n berchen ar yr eiddo. Mewn termau lesddaliadol, gelwir y landlord y rhydd-ddeiliad neu’r lesydd hefyd.
Les Contract yn rhwymo mewn cyfraith rhwng y lesddeiliad a pherchennog eiddo (rhydd-ddeiliaid) yn rhoi perchnogaeth amodol ar yr eiddo am gyfnod cytunedig.
Lesddeiliad (deiliad prydles) Y person sy’n dal tir o dan les (sy’n hysbys hefyd fel deiliaid prydles). Y person mae’r eiddo wedi’i brydlesu iddo.
Mangre a lesiwyd Yr ardal o dir sy’n destun les. Fel arfer, bydd les yn nodi’n glir yn union beth yw’r mangre a lesiwyd. Er enghraifft, os prynwch buddiant lesddaliadol fflat, gallai’r les ddatgan bod eich buddiant yn perthyn i’r gwahanfuriau a phlastr mewnol ond nid i strwythur gwirioneddol yr adeilad.
Opsiynau talu Gall landlordiaid ganiatáu amser estynedig i ad-dalu taliadau gwasanaeth ar gyfer gwaith mawr lle maent yn ddrud ac na all y lesddeiliad ad-dalu ar unwaith. Yn gyffredinol, bydd y landlord yn asesu amgylchiadau ariannol a fforddiadwyedd pob lesddeiliad sy’n gwneud cais am amser estynedig a threfnu ateb oddi ar restr o opsiynau.
Pridiant Tystysgrif mae’r cofrestrfa tir fel arfer yn ei chyhoeddi i fenthyciwr morgais sydd wedi benthyg arian ar ddiogelwch eiddo cofrestredig. Mae’n dystiolaeth i’r benthyciwr o’u gwariant. Hefyd gall pridiant fod yn erbyn benthyciad diogel neu ddyled arall.
Rhent tir Gan fod lesddaliad yn fath o denantiaeth, rhaid talu rhyw fath o rent. Mae’r les yn nodi faint fydd hwn bob blwyddyn ac a ellir ei gynyddu neu ei adolygu dros gyfnod o amser.
Taliad rheoli Y rhan o’r taliad gwasanaeth sy’n cwmpasu costau rheoli lesddaliad y landlord. Hefyd gall y rhain olygu costau i reoli rhaglen o waith mawr.
Tribiwnlys Prisio Lesddaliadau Mae’r LVT yng Nghymru a’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn Lloegr yn gweithredu fel cymrodeddwyr annibynnol ar gyfer anghydfodau lesddaliad a mae eu penderfyniadau’n rhwymo mewn cyfraith.
Ymgynghoriad Dyma’r broses bydd eich landlord yn mynd trwyddi i roi gwybod i chi am waith arfaethedig neu gontractau hirdymor ar gyfer gwasanaethau lle mae’r costau’n uwch na throthwy ariannol. Mae rhan o’r broses hon yn ofynnol yn ôl y gyfraith (Adran 20) a mae rhan yn arfer da.
Ymholiadau cyn gwerthu Fel arfer bydd cyfreithiwr y prynwr yn anfon cwestiynau at y landlord. Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi cyhoeddi ffurflen benodedig i gyfreithwyr ei defnyddio a’r enw ar hon yw LPE1. Gall landlordiaid godi tâl am y rhain gan eu bod yn fanwl iawn a gallant gymryd cryn dipyn o amser i’w cwblhau.
Yn ôl i'r top