Mae Llywodraeth Cymru yn gosod safonau perfformio mae landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru fod i'w cyrraedd.
Maen't wedi dweud yn glir eu bod yn disgwyl in i berfformio mewn 10 maes allweddol er mwyn bod yn effeithiol fel landlord cymdeithasol.
Er mwyn dangos hyn rydym yn hunan arfarnu yn flynyddol yn erbyn pob un or maesydd perfformio mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod.
Mae ein barn ni o'n hunan arfarniad diweddaraf i'w weld yn Natganiad Hunanarfarniad CCG.
Un o'n gwerthoedd corfforaethol yw bod yn agored, teg a chlir. Yn rhan o hyn mae'n hynod o bwysig ein bod ni'n deall sut ’rydym yn perfformio, ac mae'n hanfodol ein bod ni'n agored gyda staff, tenantiaid a rhanddeiliaid am ein perfformiad. Rydym wedi cyflwyno system sy'n ein galluogi ni i fesur ac adrodd ar sut ‘rydym yn perfformio ar draws meysydd allweddol y busnes.
Bob blwyddyn byddwn yn adrodd ar ein dangoswyr perfformiad allweddol i Lywodraeth Cymru fel rhan o'n hunan arfarniad blynyddol. Rydym hefyd yn rhan o sefydliad meincnodi sy'n ein galluogi ni i gymharu ein perfformaid gyda chymdeithasau tai eraill yng Nghymru a thu hwnt.
Lawrlwythwch ein adroddiadau blynyddol isod:
2017/18 |
2016/17 |
2015/16 |
2014/15 |
2013/14 |
2012/13 |
2011/12 |
2010/11 |
Lawrlwythwch ein datganiadau cyfrifon isod:
Rydym eisiau gwybod beth yw barn ein tenantiaid ni ar ein perfformiad. Er mwyn ein helpu i ddarganfod hyn rydym wedi cyd-weitiho gyda asiantaeth ymchwil i holi dros 125 o denantiaid pob mis am eu profiad gyda ni.
Rydym yn defnyddio'r adborth yma i wella ein gwasanaethau.
Mewn geiriau eraill gwneud mwy o beth rydych yn ei hoffi a llai o'r hyn nad ydych yn ei hoffi.
Mae'r adborth rydym yn ei dderbyn a phob arlowg sydd yn cael ei gynnal gan Landlordiaid Tai Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn cael eu monitro gan Lywodraeth Cymru.
Er mwyn i'n tenantiaid, pobl sydd yn cysidro bod yn denant, sefydliadau eraill sydd a diddoedeb ynom ni ac unigolion allu cymharu sut mae tenantiaid yn teimlo am ein gwasanaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi lawnsio Adnodd Cymharu Cymdeithasau Tai newydd.
Mae'r adnodd yma yn eich galluogi i gymharu materion megis faint o stoc sydd ganddynt, perfformiad cyllidol ac adborth tenantiaid landlordiaid yng Nghymru
Ers mis Mai 2017 rydym wedi cyflwyno ffordd newydd o gynnal ein harolygon boddhad cwsmeriaid. Yn y gorffennol rydym wedi bod yn cynnal arolygon boddhad blynyddol ac yna ymateb i adborth tenantiaid unwaith y flwyddyn. Fodd bynnag, o dan y broses newydd rydym yn cynnal arolygon parhaus sy’n golygu ein bod yn gallu gwella a datblygu ein gwasanaethau er mwyn cyrraedd eich anghenion.
Pob mis rydym yn samplo oddeutu 125 tenant sydd wedi derbyn y gwasanaethau canlynol; gwasanaethu system wresogi, trwsio, gwaith gwella, ymholiad rhent, tenantiaid newydd a cheisiadau ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Ni fydd unrhyw denant yn cael ei harolygu mwy na dwywaith y flwyddyn o dan y broses yma.
Mae’r graff isod yn dangos y boddhad gyda’r gwasanaethau yma yn ystod 2018
O dan y broses newydd yma rydym hefyd yn gofyn naw cwestiwn allweddol sy’n ein galluogi ni i gymharu ein perfformiad gyda chymdeithasau tai eraill ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r graff isod yn dangos ein perfformiad yn y naw maes yma:
Cwestiynau Llywodraeth Cymru | Cwestiynau STAR Housemark |
Mae’r canlyniadau yn gadarnhaol wrth gymharu gyda chymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae boddhad wedi gwella’n aruthrol ers 2016, gyda rhai meysydd yn gweld cynnydd o dros 20%.
Mae derbyn adborth cwsmeriaid drwy arolygon boddhad tenantiaid mwy rheolaidd yn allweddol er mwyn gwneud gwelliannau i’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i’n tenantiaid.
Pa bynnag ffordd yr ydych yn ymgysylltu gyda ni, rydym wedi ymrwymo i wrando a gweithredu ar eich adborth lle bynnag o bo’n bosib. Dyma ychydig o’r newidiadau yr ydym wedi eu rhoi ar waith yn dilyn cwynion:
Dywedoch chi: Rydych yn teimlo eich bod yn gorfod aros rhy hir am waith Trwsio.
Ein hymateb ni: Rydym yn adolygu y ffordd rydym yn cynnig apwyntiadau a wedi newid ein dyddiaduron i sicrhau ein bod yn gallu datrys unrhyw waith trwsio yn effeithlon/
Dywedoch chi: Mae diffyg cyfathrebu mewnol yn ganolbwynt i gwynion ac anfodlonrwydd.
Ein hymateb ni: Rydym wedi adleoli canran uchel o’n staff i un swyddfa canolog ac yn gweithio gyda gwasanaethau i wella prosesau er mwyn cynnig gwasanaeth mwy effeithlon.
Dywedoch chi: Nad oes digon o gyfathrebu cyn symud mewn i eiddo newydd
Ein hymateb ni: Rydym yn cyflwyno gwasanaeth negeseuon testyn er mwyn gallu anfon diweddariadau i chi gyda gwaith yn eich cartref newydd.
Dywedoch chi: Mae tamprwydd neu gyddwysedd yn broblem.
Ein hymateb ni: Rydym wedi darparu hyfforddiant i’n swyddogion cynnal a chadw i wneud gwell diagnosis ar wraidd y tamprwydd neu’r cyddwysedd a sut orau i’w waredu. Mae hyn yn hanfodol i wella’r gwasanaeth rydym yn gynnig i’n tenantiaid.
Dywedoch chi: Bod problemau yn dilyn gwaith y contractwyr, Wates. Nododd nifer helaeth bod snaggio mewnol, fel stripedi grip carped a'r llwybrau blaen wedi eu gwneud i safon isel.
Ein hymatyeb ni: Mae'r tîm Asedau wedi cyfarfod gyda’r contractwyr ac maent am ymweld a bob eiddo yn unigol i wneud y gwaith sydd angen.
Dywedoch chi: Nifer o erddi heb gael yr un toriad yn ystod y tymor gyda nifer o denantiaid yn gorfod talu'n breifat am gael torri'r gwair.
Ein hymateb ni: Mae'r tîm Cleient yn sicrhau fod pob eiddo sydd wedi codi cwyn wedi cofrestru am y gwasanaeth. Toedd nifer helaeth o'r eiddo heb ail-gofrestru am y gwasanaeth. Er mwyn hyrwyddo'r gwasanaeth a'r dull cofrestru, rydym wedi hyrwyddo ar ein cyfryngau cymdeithasol a'n Newyddlen Tenantiaid.
Dywedoch chi: Nad yw gwaith gan rhai contractwyr sydd yn gweithio i CCG yn cael ei gwblhau i'r safon disgwyliedig
Ein hymateb ni: Rydym wedi cynyddu faint o arolygwyr sydd ar ein safleoedd a wedi cyflwyno rhestr wirio i graffu ar berfformiad y contractwyr.
Mae’r effaith gadarnhaol mae gwaith Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) wedi ei gael ar fywydau cwsmeriaid a’r economi yn cael ei gadarnhau mewn adroddiad annibynnol diweddar.
Mae’r canfyddiadau yn hynod o gadarnhaol ac rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi ei gyflawni.
Rhai o brif benawdau’r adroddiad:
Cliciwch isod i ddarllen crynodeb a/neu'r adroddiad llawn:
Asesiad Effaith Economaidd, Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Crynodeb
Asesiad Effaith Economaidd, Cymdeithasol, Iechyd a Lles - Adroddiad Llawn PACEC (Saesneg)
Gallwch hefyd wylio'r ffilm isod ar effaith buddsoddiad CCG ar draws cymunedau:
Mae'r ffilm isod yn gyfres o gyfweliadau gydag aelodau Cynhadledd 2025, sef sefydliad ar y cyd sydd o'r farn bod sefyllfa ble mae anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi yn bodoli yng Ngogledd Cymru yn 2015 yn annerbyniol. Y bwriad yw dod ag anghydraddoldebau o'r fath i ben erbyn 2025. Mae ein Prif Weithredwr, Ffrancon Williams, yn esbonio pwysigrwydd rôl tai yn y weledigaeth yma (1 munud 55 eiliad i mewn i'r ffilm):
Cyfweliad Saesneg
Mae CCG wedi ei gofrestru ac yn cael ei reoleiddio gan Llywodraeth Cymru. Mae’r llywodraeth yn gweithio gyda cymdeithasau tai er mwyn sicrhau safon gwasanaeth ar gyfer tenant ac i sicrhau eu bod yn cael eu Llywodraethu yn effeithiol.
Mae’r dulliau sydd yn cael eu defnyddio yn amrywio ac yn gallu cynnwys: gwybodaeth sydd yn cael ei ddarparu drwy ffurf hunan-arfarniad gan pob cymdeithas, trafodaethau gyda tenantiaid, ac adolygu cynlluniau busnes.
Mae’r adroddiad yma yn amlinellu adroddiad Llywodraeth Cymru ac yn darparu lefelau perfformiad yn erbyn y Safonau Perfformiad yn ymwneud a:
Cafodd Fframwaith Arfarnu Reoleiddiol newydd ei gyflwyno ar y 1af o Ionawr 2017 a’i dreialu drwy’r flwyddyn. Mae’r dull newydd diwygiedig hwn yn rhoi ffocws ar gwelliant parhaus gyda arfarniad rheoleiddiol clir. Mae mesurydd perfformiad newydd hefyd wedi eu cyflwyno gyda’r bwriad o gyfarch y Fframwaith Reoleiddiol newydd. Mae’r gwaith asesu reoleiddiol yn dilyn yr ymagwedd newydd at reoleiddio sydd yn canolbwyntio ar risg, sydd 6yn ceisio adnabod cryfderau yn ogystal a meysydd ar gyfer gwella.
Mae’r ffocws yn seiliedig ar risgiau strategol a materion hyfywedd busnes, yn ogystal a llywodraethu da, yn benodol ar sut mae’r Bwrdd yn derbyn sicrwydd bod ei prif gyfrifoldeb o sicrhau bod y LCC yn cael ei redeg yn llawn ac yn cael ei gyflawni yn gywir.
Mae Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn cael ei reoleiddio gan Llywodraeth Cymru yn ymwneud gyda darpariaeth tai a materion yn ymwneud a llywodraethu a rheoleiddio ariannol.
Fel rhan o’r broses reoleiddio maen ofynnol bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd yn hunan arfarnu ei weithgareddau er mwyn profi sut rydym yn cyrraedd gofynion y canllawiau perthnasol. Mae’r hunan arfarniad a’r Datganiad o Gydymffurfio yn cael ei rannu gyda Tim Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru ac yn cael ei ddiweddaru yn gyson gan CCG.
Yn dilyn eu hasesiad, mae Tim Rheoleiddio Tai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi eu adroddiad Barn Reoleiddiol,. Sydd ar gael i’w lawrlwytho isod, mae’r adroddiad yn gosod Barn Reoleiddiol Llywodraeth Cymru ac wedi ei ddylunio i ddarparu CCG, tenantiaid, defnyddwyr gwasanaeth a rhanddeiliaid eraill gyda dealltwriaeth o pa mor dda rydym yn perfformio yn erbyn y safonau perfformiad yn ymwneud a:
Mae’r arfarniad yn syrthio i fewn i un o’r pedwar categori canlynol “Safonol”; “Cynyddol”; “Ymyrraeth” neu “Gweithredu Statudol”. Cafodd CCG y farn “Safonol” yn Rhagfyr 2018 sydd yn golygu bod CCG yn adnabod ac yn rheoli risgiau presennol a risgiau fydd yn codi yn bwrpasol, a bod gan CCG yr adnoddau pwrpasol ar gyfer cyrraedd gofynion ein ymroddiadau busnes ac ariannol ar gyfer y dyfodol – mae hyn yn gasgliad addawol iawn.
Lawrlwythwch y Barn Rheoleiddio TaI 2018